Cartref >> Cyswllt >> Lleoliad

Lleoliad

Mae Clwb Golff Nefyn a’r Cylch ym mhentref Morfa Nefyn ar Benrhyn Llŷn yng Ngogledd
Gorllewin Cymru. Mae’n hawdd teithio yno o’r awyr, ar y ffordd a thros y môr.


Edrychwch ar Fap Mwy

Teithio o’r Gogledd Orllewin

Cymerwch yr A55 o Gaer i Fangor, yr A487 trwy Gaernarfon i Lanwnda. Yng nghylchfan 
Llanwnda, cymerwch yr A499 am Bwllheli a theithiwch i Lanaelhaearn a throwch i’r dde ar
y B4417 am Nefyn trwy Lithfaen a Phistyll. Wrth gyrraedd cylchfan bychan yng nghanol
Nefyn trowch i’r dde ar y B4417 i Forfa Nefyn.

Morfa Nefyn

Yn y groesffordd yng nghanol Morfa Nefyn trowch i’r dde oddi ar y B4417 i’r B4412, Lôn
Penrhos sy’n arwain yn syth i Lôn Golff lle y gwelir y Clwb Golff ar ben yr allt o’ch blaen.

Teithio o’r De

Cymerwch yr A497 o Bwllheli am Nefyn. Ymhen rhyw chwe milltir, ar y cylchfan cyntaf
(ger Tafarn y Bryncynan) ewch yn syth ymlaen ar y B4412 i groesffordd Morfa Nefyn.


Edrychwch ar Fap Mwy

Yn y groesffordd yng nghanol Morfa Nefyn trowch i’r dde oddi ar y B4417 i’r B4412, Lôn
Penrhos sy’n arwain yn syth i Lôn Golff lle y gwelir y Clwb Golff ar ben yr allt o’ch blaen.


Clwb Golff Nefyn a’r Cylch,
Lôn Golff,
Morfa Nefyn,
Pwllheli,
Gwynedd.
LL53 6DA

© 2011 Nefyn & District Golf Club, Lon Golff, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DA - Links - Website Design Wales