Cartref >> Digwyddiadau >> Achlysuron Arbennig

Achlysuron Arbennig

Dathlwch eich achlysur arbennig yng Nghlwb Golff Nefyn

Petaech yn cynllunio priodas, dathliad priodas neu ben-blwydd arbennig, bydd Clwb Golff
Nefyn yn hapus i drefnu ar eich rhan, gan edrych ar ôl eich holl drefniadau cyn ac yn ystod
eich diwrnod arbennig.

Mae gennym yr holl gyfleusterau, maes parcio mawr, lolfa gyffyrddus, bar a Bwyty’r
Penwaig lle y gellir eistedd 120 o gwsmeriaid. O’r bwyty yma ceir golygfeydd panoramig
godidog, ymysg y gorau ar Benrhyn Llŷn.

Bydd ein staff arlwyo a’n staff bar ar gael i weini ar eich gwesteion o’r funud y byddant
yn cyrraedd.

 

Gallwn drefnu’r lolfa a’r bwyty ar gyfer bwyta ac adloniant gyda’r nos ac mae gennym lawr
dawnsio penodol yn y lolfa.

Gallwn edrych ar ôl eich parti Nadolig ac achlysuron arbennig fel Sul y Mamau a Sul y
Tadau.

I drefnu eich Achlysur Arbennig a sgwrsio am eich anghenion, ffoniwch Swyddfa
Clwb Golff Nefyn ar 01758 720966 (est 5).

BOOKINGS & INFORMATION:

Book a Tee Time
Email via the Website
Professional Shop: 01758 720102
Office: 01758 720966 (Ext 5)


© 2011 Nefyn & District Golf Club, Lon Golff, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DA - Links - Website Design Wales