Cartref >> Siop y Pro >> Academi’r Adran Iau
Academi’r Adran Iau
Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o olffwyrMae ein Gŵr Proffesiynol yng Nghlwb Golff Nefyn wedi sefydlu Academi’r Adran Iau yn
arbennig i annog pobl ifanc i gychwyn chwarae golff ynghyd ag ymestyn sgiliau aelodau
presennol yr Adran Iau. Ar hyn o bryd, cynigir hyfforddiant i dros 40 o olffwyr ifanc o’r ardal
leol.
Gall ymwelwyr fanteisio ar y cyfleuster hyfforddiant yma hefyd, ond gofynnir iddynt
gysylltu â Siop y Pro mewn da amser cyn eu hymweliad.
Gellir llogi clybiau a threfnir yr hyfforddiant un ai yn y llecynnau ymarfer dan do neu yn y
llecynnau yn yr awyr agored.
Yn sgil sefydliad yr Academi, mae’r Adran Iau yn cynyddu mewn ffyniant, gyda’i Gapten ei
hun a chystadleuthau rheolaidd trwy’r flwyddyn. Croesawir aelodau newydd i’r Adran Iau.
Gellir cael ffurflenni cais o
Swyddfa’r Clwb: 01758 720966 (est 5)
BOOKINGS & INFORMATION:
Book a Tee Time Email via the Website Professional Shop: 01758 720102
Office: 01758 720966 (Ext 5)