Cartref >> Siop y Pro >> Croeso

Croeso


Gwasanaeth proffesiynol yn cydweddu â chynhyrchion o safon


Manteisiaf ar y cyfle yma i’ch gwahodd i ymweld â Chlwb Golff Nefyn ac rwy’n eich
sicrhau y cewch groeso cynnes a chyfeillgar gan bawb sy’n gysylltiedig â’r Clwb. Bydd fy
staff proffesiynol a minnau’n hapus i drafod unrhyw anghenion golff y byddwch eu hangen,
pa un ai offer, dillad, hyfforddiant neu memorabilia golff Nefyn. Cyn neu ar ôl eich rownd,
bydd croeso i chi bori o gwmpas ein siop fodern helaeth sy’n llawn o bob math o offer golff.

Y Brandiau gorau ar gyfer eich anghenion golff

Ymfalchïwn mewn cadw stoc helaeth o’r offer golff diweddaraf gan y prif wneuthurwyr, gan
gynnwys Nike, TaylorMade, Ping a Titleist. Yn ogystal, bydd gennym ystod eang o offer
penigamp J Lindeberg, Calvin Klein, Galvin Green a Lyle & Scott. Fel aelod o’r gyfundrefn
Golff Foremost, byddwn, nid yn unig yn cynnig prisiau cystadleuol ar gynhyrchion golff
dethol, ond hefyd byddwn yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar eu priodoldeb a’u
dibynadwyedd. Mae gwasanaeth atgyweirio a ffitio llawn ar gael yn ogystal.




Ewch a memorabilia golff Nefyn adref i’w drysori


I’ch cynorthwyo i gofio eich ymweliad â Nefyn, cadwn ystod o femorabilia golff Nefyn, o
atgyweiriwyr glaniad pêl, marcwyr peli i orchudd pennau clybiau ac, wrth gwrs, argraffiadau
o’r penrhyn byd enwog. Mae nifer o’n dilladau’n arddangos logo’r Clwb sy’n cynnwys y tri
phennog. 






BOOKINGS & INFORMATION:

Book a Tee Time
Email via the Website
Professional Shop: 01758 720102
Office: 01758 720966 (Ext 5)


© 2011 Nefyn & District Golf Club, Lon Golff, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DA - Links - Website Design Wales