Cartref >> Cwrs Golff >> Safon Ymddygiad ar y Cwrs / yn y Clwb

Safon Ymddygiad ar y Cwrs / yn y Clwb

“Croeso i chi fel ein gwesteion”

Yn Nefyn, ymdrechwn i sicrhau fod pob un o’n gwesteion yn ymgartrefu; delir â hwy gan ein staff fel gwesteion y Clwb yn ystod eu harhosiad. Ymfalchïwn wrth gynnig awyrgylch hapus lle caiff ein hymwelwyr ymlacio ar y cwrs ac yn y Clwb.

“Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl”

Fodd bynnag, gofynnwn i’n hymwelwyr gydymffurfio ag ychydig o reolau syml ar ac oddi ar y cwrs er mwyn sicrhau y bydd pawb yn mwynhau eu hymweliad, ail-ymweld â’r Clwb yn y dyfodol ac argymell Nefyn i’w ffrindiau.


Gwisg

Ar y cwrs, gofynnir i chi atal rhag gwisgo dillad glan môr, crysau heb goler, esgidiau ymarfer/treinars, jîns a thracwisg.

Yn y Clwb, gwerthfawrogwn wisg segura dwt yn y lolfa a’r bwyty.


Safon Ymddygiad Chwarae

Ar y cwrs, gofynnir i chi atal rhag chwarae’n araf: ‘Dilynwch y gêm o’ch blaen yn hytrach na bod yn dal y gêm y tu ôl i chi.’

 

Gofynnir i chi beidio â:

  • Rhannu clybiau neu fagiau
  • Marcio cardiau ar y lawnt
  • Gadael troli neu fygi o flaen y lawnt.

 

Os gwelwch yn dda:

  • Ailosodwch bob tywarchen
  • Byddwch yn barod i chwarae pan ddaw eich tro
  • Symudwch ar gyflymdra rhesymol rhwng eich ergydion
  • Byddwch yn ymwybodol o olffwyr sy’n eich dilyn




BOOKINGS & INFORMATION:

Book a Tee Time
Email via the Website
Professional Shop: 01758 720102
Office: 01758 720966 (Ext 5)


© 2011 Nefyn & District Golf Club, Lon Golff, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DA - Links - Website Design Wales