Mae gan y Clwb faes ymarfer gyda thri bae taro o dan do a chyfleuster llifoleuadau. Mae chwe bae ychwanegol yn yr awyr agored, hyn oll yn cynnig llecyn ymarfer drwy’r flwyddyn ynghyd â chyfleuster hyfforddiant penigamp i olffwyr o bob gallu. Wrth ochr y maes ymarfer, mae lawnt fawr lle y gellir ymarfer pytio a tsipio a bynceri i ymarfer ergydion o’r tywod.


© 2011 Nefyn & District Golf Club, Lon Golff, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DA - Links - Website Design Wales