“Diferyn yn y Dafarn”
Sawl clwb allai frolio y’i sefydlwyd mewn bar tŷ tafarn bychan, anghysbell ar draeth diarffordd yng nghanol arfordir garw gyda chadwyn o fynyddoedd byd enwog yn gefndir iddo?
Wel, gall Clwb Golff Nefyn a’r Cylch ateb y galwad yma. Erbyn heddiw, gall golffwyr sy’n ymweld â’r Clwb gael egwyl fechan wrth chwarae ar Benrhyn Porthdinllaen a mwynhau’r croeso a estynnir iddynt yn Nhafarn Tŷ Coch ar Benrhyn Llŷn, yn union fel y gwnaeth sylfaenwyr y Clwb dros ganrif yn ôl.
Nefyn - golygfa o’r môr o bob twll a chornel”
Mae gan ymwelwyr, sy’n chwarae ar gwrs Nefyn, y dewis o chwarae’r Hen Gwrs neu’r Cwrs Newydd fel rhan o’r 26 twll sydd ar gael. Fodd bynnag, fe’i hanogir i neilltuo amser i chwarae’r ddau gwrs yn ystod eu hymweliad.
Ar yr Hen Gwrs, chwaraeir y deg twll gwreiddiol cyntaf cyn troi at Benrhyn Porthdinllaen i chwarae’r wyth twll olaf. Yn dilyn y twll cyntaf, a chwaraeir allan at y môr, ceir cyfres o 3 twll sy’n dilyn yr arfordir creigiog hyd at Abergeirch, tyllau anodd lle gwobrwyir y dewr a chosbir y person petrusgar. Dilynir yr her yma gyda thwll byr lle bydd eich cefn at y môr a chyfle i gael eich gwynt yn ôl! Mae wyth twll olaf o’r Hen Gwrs ar benrhyn cul (Y Point fel yr adweinir ef), lle chwaraeir ar leiniau a lawntiau uwchlaw’r môr, gyda phentiroedd creigiog a chilfachau ar yr un ochr a thraethau tywod ar y llall.
Chwaraeir y deg twll cyntaf gwreiddiol eto wrth gychwyn ar y Cwrs Newydd, ond yna dilynir hyn gydag wyth twll cymharol newydd sy’n dilyn llethrau tawel a chilfach yr afon Geirch. Mae cryn her i’r golffiwr ar y tyllau yma, gyda’r sialens eithaf ar y 15fed twll -par 4 sy’n troi o’r dde i’r chwith gyda thywod mewn mannau strategol; mae cywirdeb yn hanfodol yma. Gydag Eryri yn gefndir i bob twll, daw’r uchafbwynt ar y ti olaf un, gyda golygfa banoramig o’r holl gwrs.
BOOKINGS & INFORMATION:© 2011 Nefyn & District Golf Club, Lon Golff, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DA - Links - Website Design Wales