“Fel ein gwesteion, estynnwn groeso cynnes i chi”
Gyda channoedd o olffwyr yn ymweld â Nefyn bob blwyddyn, credwn ein bod, erbyn hyn, yn
gwybod sut i estyn croeso i’n hymwelwyr gan sicrhau profiad hollol gofiadwy ar ac oddi ar y
cwrs.
“Cynigir golff heriol a theg mewn lleoliad ysblennydd”
Cwrs unigryw gyda 26 twll, gan gynnwys y ‘Penrhyn/Point’ byd enwog – lle ceir wyth twll ar
benrhyn cul o dir sy’n ymestyn allan i Fae Caernarfon. A’r her – tyllau sy’n eich herio i fentro
er mwyn cael eich gwobrwyo. Serch hyn, caiff golffwyr o bob gallu fwynhad o’r profiad. Gyda
golygfa o’r môr o bob twll a’r Wyddfa fel cefndir, mae’r gair ysblennydd yn dweud ond hanner
y stori!
“Cewch werth eich arian ar ac oddi ar y cwrs”
Nid ydym yn cynnig telerau golff rhad, ond ystyriwn, cyn belled ag y mae tâl chwarae yn y
cwestiwn, ein bod yn cymharu’n deg a chlybiau eraill trwy gydol y flwyddyn. Os dach chi’n dod
mewn grŵp, yna mae gennym fargeinion a fydd yn gweddu ag unrhyw gyllideb.
“Y tu mewn i’r Clwb, mae cyfleusterau cyffyrddus lle y gallwch ymlacio”
Yn y Clwb, mae lolfa a bar eang a bwyty lle gellir bwydo 120 o westai, ac o’r ystafelloedd
yma ceir golygfeydd godidog o’r cwrs a’i amgylchynau. Yn ogystal, ceir bar sbeic gyda
theledu ‘Sky’ ac ystafell snwcer. Cynigir ystod eang o brydau a diodydd gan ein staff arlwyo
a’n staff bar i blesio pob chwaeth.
“Cynigir ystod o offer golff a dillad o safon”
Bydd ein Gŵr Proffesiynol yn cadw ystod eang o’r offer a’r dillad diweddaraf ynghyd â
memorabilia yn ein siop gyfoes eang. Yn ogystal, bydd ein staff yn cynnig hyfforddiant yn
ein maes ymarfer ac ar ein cwrs byr.
“Argymhellir lletyai lleol dibynadwy a rhesymol eu pris”
Bydd gwestai a phartneriaid llecynnau hunan arlwyol y Clwb yn sicrhau pleser trwy ddarparu
lletyai cyffyrddus a rhesymol eu prisiau yn ystod arhosiad ein gwestai. Ewch ar-lein neu
cysylltwch â ni i gael bwcio eich ymweliad yn awr!!
© 2011 Nefyn & District Golf Club, Lon Golff, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DA - Links - Website Design Wales