Cartref >> Ymwelwyr >> Golff Corfforaethol

Golff Corfforaethol

Dyddiau Golffio Corfforaethol

Cyfuno busnes gyda phleser…

Tybiwn y gall Clwb Golff Nefyn greu cyfle bendigedig i ddweud ‘diolch yn fawr’ igwsmeriaid, cleientiaid, cyflenwyr neu aelodau o staff. Gallwch ddod am y golff yn unig, ond os dach chi eisiau cyfuno busnes gyda phleser, gallwn gynnig ystafell gynhadledd gyda’r holl offer a’r cyfleusterau sydd eu hangen.



Gadewch fanylion y trefniadau i gyd i ni….

Mae gennym staff, sydd, petaech yn dymuno, yn gallu edrych ar ôl trefniadaeth eich Diwrnod Corfforaethol, o drefnu cychwynnwr ar y ti cyntaf, i baratoi eich cardiau, trefnu gwobrau cystadleuaeth arbennig, e.e. agosaf at y pin, y ddreif hiraf a threfnu lluniaeth ar y cwrs.

Mwynhewch yr holl gyfleusterau fel ein gwesteion am y diwrnod….

Ar wahân i’r golff, gallwn gynnig holl gyfleusterau’r Clwb i chi, gan gynnwys y lolfa, y bar Sbeic a bwyty i 120  lle y darperir arlwyaeth o’r safon uchaf ynghyd â chwrw, gwin a gwirodydd da. Bydd ein Gŵr Proffesiynol yn hapus i baratoi nwyddau ychwanegol, fel bagiau pethau da, gwobrau a phethau golff cofiadwy ar y diwrnod.

I gael rhagor o wybodaeth am Becynnau Golff Corfforaethol, cysylltwch â ni ar:
01758 720966 (Est 5)

BOOKINGS & INFORMATION:

Book a Tee Time
Email via the Website
Professional Shop: 01758 720102
Office: 01758 720966 (Ext 5)


© 2011 Nefyn & District Golf Club, Lon Golff, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DA - Links - Website Design Wales